Amdanom ni

Ein Cyfarwyddwr

Yn gyn-newyddiadurwr, bu Gareth yn Olygydd Addysg i’r Western Mail am bron 10 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnnw, daeth i fod yr unig arbenigwr i weithio ochr yn ochr â phedwar gwahanol Weinidog dros Addysg.

Mae ei rôl newydd yn rhoi ar waith y cyfan a ddysgodd dros y cyfnod hwnnw, ac yn ogystal â dadansoddi, archwilio a chyfrannu at bolisi addysg yng Nghymru, mae bellach yn gweithio gydag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill er mwyn gweithredu’r polisi hwnnw’n llwyddiannus.

Yn sylwebydd sy’n cyfrannu’n rheolaidd at y cyfryngau printiedig a darlledu cenedlaethol, cyhoeddwyd ei lyfr diweddar A Class Apart: Learning the Lessons of Education in Post-Devolution Wales yn 2015 gan  Welsh Academic Press. Fel un sy’n cyfrannu at nifer o gynadleddau addysg ar ystod eang o faterion, mae ei ymchwil presennol yn ymwneud â dysgu proffesiynol y gweithlu addysg, ac atebolrwydd mewn ysgolion

E-bost: gareth.evans@uwtsd.ac.uk
Twitter: @garethdjevans
Ffôn: 01792 482070

Ein pobl ni

Mae CDAPA yn manteisio ar gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd yn yr Athrofa Addysg ehangach. Mae gennym gyfalaf dynol enfawr sy’n ymwneud â phob agwedd ar bolisi addysg o bob rhan o’r ystod oedran. O addysg a gofal y blynyddoedd cynnar, i ddysgu gydol oes a datblygu gyrfa ar gyfer ymarferwyr mwy profiadol, mae ein tîm yn dod â phrofiad amlwg a dealltwriaeth glir o faterion sy’n wynebu addysgwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae’r aelodau staff a restrir ymhlith y rhai sy’n cyfrannu i waith CDAPA ar adolygu a dadansoddi polisi, ac er eu bod yn gysylltiedig â gwahanol freichiau’r Athrofa, maen nhw’n dod at ei gilydd i ffurfio cyfanwaith pwerus.

Yr aelodau sy’n cyfrannu i CDAPA, gyda manylion cyswllt ac arbenigeddau:

 

Iestyn Davies
Addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a dulliau’r sector deuol i addysg mewn AB/AU

 

Dr Jane Waters-Davies
Addysg ac addysgeg plentyndod cynnar

 

Dr Ceri Phelps
Seicoleg iechyd a datblygu ymyrraeth

 

Dr Charlotte Greenway
Iechyd meddwl sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc

 

Natalie MacDonald
Blynyddoedd cynnar a pholisi addysgol a datblygu’r cwricwlwm

 

Elaine Sharpling
Datblygiad iaith, ieithyddiaeth ac addysg gychwynnol athrawon

 

Dr Nic Welton
Dysgu anffurfiol/anffurfiol, addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwyedd a dysgu awyr agored

 

Dr Nalda Wainwright
Llythrennedd corfforol a dysgu yn yr awyr agored

 

Dr Carolyne Obonyo
Integreiddio technoleg, polisi dyblygu e a safbwyntiau rhyngwladol

 

Dr Iain Jones
Addysgeg, oedolyn a dysgu gydol oes, ac ehangu mynediad

 

Nanna Ryder
Anghenion Dysgu Ychwanegol a chymorth i blant sydd â Dyslecsia

 

Mae CDAPA hefyd yn ffodus o allu elwa ar ganfyddiadau a phrofiad nifer o athrawon ymarfer enwog, y mae pob un yn arbenigwyr hysbys yn eu maes. Yn eu plith mae:

  • Yr Athro Steve Davies, cyn-Gyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Louise Hayward, Athro Asesu Addysgol ac Arloesedd ym Mhrifysgol Glasgow ac arweinydd CAMAU
  • Yr Athro Mick Waters, cyn-Gyfarwyddwr Cwricwlwm Lloegr ac ymgynghorydd addysg Llywodraeth Cymru