Sefydlwyd Y Ganolfan ar gyfer Adolygu a Dadansoddi Polisïau Addysg (The Centre for Education Policy Review and Analysis – CEPRA) gan Yr Athrofa Addysg ym mis Awst 2018, er mwyn cyfrannu yn ystyrlon at ddatblygiad polisi a’r ddadl am bolisïau addysg yng Nghymru.
O dan arweinyddiaeth yr addysgwr a sylwebydd mawr ei barch, Dr Gareth Evans, mae’r Ganolfan yn cymryd arni rôl ‘cyfaill beirniadol,’ ac mae’n bodoli er mwyn cefnogi gwneuthurwyr polisïau a phawb arall sydd ganddynt gyfran mewn addysg yng Nghymru.
Darperir gan y Ganolfan lwyfan i ddadlau a dadansoddi materion sy’n ymwneud â maes polisïau addysg. Mae’n herio normau a thybiaethau sefydledig, ac mae’n adfyfyrio ar yr amgylchedd hwnnw y mae addysgwyr yn gweithredu ynddo yn ddyddiol ar bob lefel.
Gan dynnu ar arbenigedd a geir gartref a thramor, mae’r Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sbectrwm addysgol ac yn addo y byddai’n ystyried themâu polisi, sy’n amrywio o ddiwygio’r cwricwlwm hyd at hyfforddiant mewn prifysgolion, mewn ffyrdd newydd.
Cefnogir ein sylwebaeth ystyriol ac adeiladol gan ymchwil ac ymgynghoriaeth a gomisiynwyd ar ystod o destunau, a gyda’i gilydd, mae gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth y Ganolfan yn ychwanegu dwyster newydd at y drafodaeth am addysg yng Nghymru.
‘Dywedir yn aml fod y rhain yn amseroedd cyffrous i ymwneud ag addysg yng Nghymru -ac mae mewnflwch llawn Ysgrifennydd y Cabinet yn dystiolaeth bod newidiadau mawr ar waith.
‘Ond ni ellir datblygu na gweithredu polisi addysg ar wahân, ac mae angen gwerthuso gonest wrth newid y system gyfan, ynghyd â mewnbwn gan ystod eang o randdeiliaid.
‘Mae sylwebu a beirniadu materion cyfoes mewn ffordd adeiladol yn beth iach, a chroesawn y cyfle i gyfrannu’n gadarnhaol at esblygiad system addysg Cymru.
‘Mae’n bwysig ein bod ni yn awr, yn fwy nag erioed, yn profi’r hyn yr ydym yn ei wneud, er mwyn llyfnhau anawsterau dichonol a chryfhau ein gweledigaeth o ran addysg yng Nghymru. Mae angen ymdrech gydweithredol os ydym am sicrhau dyfodol llwyddiannus.
‘Mae’r Ganolfan ar gyfer Adolygu a Dadansoddi Polisïau Addysg yn edrych ymlaen at chwarae ei rôl fel rhan o Genhadaeth Genedlaethol Cymru i godi safonau ar gyfer pawb’
Dr Gareth Evans, Cyfarwyddwr CDAPA